Gweithiwr Datblygu Cyfranogiad Ieuenctid
Lleoliad: Caerdydd
Cyflog: £ 17,800 y flwyddyn (pro rata o £ 20,767 y flwyddyn)
Oriau: 30 awr yr wythnos
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 14 Mehefin 2019

Mae NYAS yn elusen plant sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc 0-25 oed, ledled Cymru a Lloegr ers dros 30 mlynedd. Maen’t eu waith yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau’r plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed pan fyddant mewn angen dybryd am help.

Maent yn chwilio am Weithiwr Datblygu Cyfranogiad Ieuenctid a fydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno’r prosiect eiriolaeth cymheiriaid a gwaith cyfranogi pobl ifanc yn NYAS Cymru. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn hyrwyddo ac yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i recriwtio, hyfforddi a chefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal i ddod yn eiriolwyr / addysgwyr cymheiriaid a’u galluogi i gefnogi a grymuso eu cyfoedion mewn amrywiaeth o fforymau. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys hwyluso grŵp cyfranogiad “Bright Sparks” yng Nghaerdydd yn ogystal â datblygu cyfleoedd cyfranogi ehangach i bobl ifanc ar draws NYAS Cymru.

Am fwy o wybodaeth a’r disgrifiad swydd, cliciwch *yma*.