Mae Tŷ Enfys yn elusen leol sy’n cynnig gwasanaeth am ddim i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw yn Llwynhendy neu o’i gwmpas.

Rydym yn gwahodd ceisiadau am Swydd Gweithiwr Ieuenctid a Chymunedol, gan bobl frwdfrydig, cymwys a phrofiadol i ymuno â’n tîm niwroamrywiol yn Llwynhendy, Llanelli. Mae angen iddynt fod wedi cael o leiaf 12 mis o brofiad o weithio gyda phobl ifanc agored i niwed a’u teuluoedd.

Mae’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol iawn.

Swydd ran-amser yw hon, am 18 awr yr wythnos, wedi’i hariannu gan Wobrau i Bawb y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Cymunedol Cymru – cronfa Principality a Sefydliad Moondance. Daw’r cyllid i ben ym mis Chwefror 2026 ond mae cyllid pellach yn cael ei archwilio. Mae’r gallu i fod yn hyblyg o amgylch dyddiau ac amseroedd cyflwyno gweithgareddau yn hanfodol.The Salary will be £14.50 per hour.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar 26 Ebrill 2026 a’r bwriad yw cynnal cyfweliadau cam un yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 25 Mai 2026.

Am drafodaeth anffurfiol a Phecyn Cais cysylltwch â Sharan Condon, Cydlynydd y Prosiect, drwy Ebost: tyenfys@gmail.com

Neu gan ffôn ar: 01554 749396

Noder, oni bai bod cais penodol amdani, y bydd gwybodaeth yn cael ei hanfon at ymgeiswyr drwy e-bost.