Mae’r CGA wedi penodi Andy Borsden i yrru’r Marc Ansawdd ymlaen

Andy Borsden yw’r swyddog datblygu sydd newydd gael ei benodi ar gyfer y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru. Mae o hefyd yn Is-Lywydd CWVYS, a hoffwn ymestyn llongyfarchiadau iddo.

Bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth gwrthuso a siapio dyfodol y wobr gan gydweithio â’r sector gwaith ieuenctid ehangach.

Ac yntau’n gyn Brif Swyddog Ieuenctid ac aseswr arweiniol ar gyfer y Marc Ansawdd, mae Andy’n ymuno â CGA gyda dros 35 mlynedd o brofiad fel gweithiwr ieuenctid.

Mae Andy’n deall pwysigrwydd datblygu a chynnal gwasanaeth o ansawdd uchel Having run youth provision as a volunteer and led teams of youth workers working with the most vulnerable young people, Andy understands the importance of developing and maintaining a quality service.

Yn gynharach eleni, bu i Lywodraeth Cymru gomisiynu CGA i gyflwyno a datblygu’r Marc Ansawdd ar y cyd â ETS Cymru.

Mae adolygiad o’r Marc Ansawdd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i archwilio sut gellid ei gryfhau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer cymryd rhan yn yr holiadur ar-lein yn dod i ben ar 30 Mehefin 2020.