Dyma’r manylion allweddol ar gyfer pob prosiect.
Cymdeithas Frenhinol y Plant Dall – Eye Connect Cymru.
• Partneriaeth â RSBC, CWVYS a Chyngor Cymru i’r Deillion.
• Mae sesiwn hyfforddi ar-lein am ddim ar gael i ddarparwyr Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a Statudol.
• Sicrhau bod yr holl staff a’r gwirfoddolwyr yn hyderus ac wedi’u hyfforddi i gynnwys pobl ifanc â nam ar eu golwg yn eu gweithgareddau, yn medru asesu ac addasu eu hamgylchedd, a bod ganddynt wybodaeth am offer priodol a hygyrch a chanllawiau ymarferol ar gyflwyno amrywiaeth o ddiddordebau gan ddarparwyr arbenigol.
• Yna gall sefydliadau ymgymryd ag achrediad Nod Barcud, sy’n hyrwyddo eu cyflawniad proffesiynol.
• Cael eu cynnwys mewn map chwiliadwy ar gyfer pobl ifanc, teuluoedd a gwasanaethau cymorth i amlygu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc â nam ar eu golwg archwilio diddordebau, gwneud ffrindiau newydd, a chymryd rhan mewn gweithgareddau prif ffrwd – gallai’r rhain fod wyneb yn wyneb neu ar-lein.
• I gofrestru aelodau eich tîm ar gyfer hyfforddiant, ewch i Gwneud eich gweithgareddau’n gynhwysol – Cymdeithas Frenhinol y Plant Dall Making your activities inclusive – Royal Society for Blind Children
• Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu monitro gan fforwm o bobl ifanc â nam ar eu golwg i hyrwyddo llwyddiannau a llywio RSBC ar gyfer anghenion datblygu a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae canllawiau i bobl ifanc â nam ar eu golwg gofrestru i fod yn rhan o’r panel wedi’u hatodi ac mae rhagor o wybodaeth ar gael yn youth.forum@rsbc.org.uk. Os hoffai pobl ifanc siarad â rhywun am y cyfle hwn, cysylltwch â Juliette drwy Juliette.Parfitt@rsbc.org.uk, neu ffoniwch 0203198022 / 07818591610.
Grantiau Plant mewn Angen Cymwysterau Gwaith Ieuenctid Am Ddim.
• Partneriaeth â Phlant mewn Angen, CWVYS a McDonald’s, a ddarperir gan Addysg Oedolion Cymru ac YMCA Abertawe.
• Cymwysterau Gwaith Ieuenctid Lefelau 2 a 3 achrededig am ddim i staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio i sefydliadau a ariennir ar hyn o bryd gan Plant mewn Angen yng Nghymru – ar gael yn bersonol, ar-lein, yn Saesneg a Chymraeg. (Mae uchafswm mewn nifer o ddysgwyr fesul sefydliad/y flwyddyn yn berthnasol).
• Uwchsgilio unigolion â chymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol a chryfhau a gwella gwasanaethau gwaith ieuenctid.
• Cysylltu â bwytai McDonald’s lleol i’w defnyddio fel lle diogel, cyfarwydd i gyflawni Gwaith ymestyn, meithrin perthnasoedd â phobl ifanc i’w dargyfeirio oddi wrth ddylanwadau negyddol ac ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid.
• Gall unigolion cymwys gofrestru trwy gymwysterau Gwaith Ieuenctid Am Ddim ar gyfer grantiau Plant mewn Angen drwy glicio ar y ddolen isod.
BBC Children in Need Grantees – Youth Work Qualifications in Wales
Prosiect Bytes – Lleisiau dros Effaith.
• Partneriaeth dan arweiniad Bytes (Gogledd Iwerddon), gyda Chlybiau Bechgyn a Merched (Gogledd Iwerddon), Mentrau Ieuenctid (Gogledd Iwerddon), YMCA (Gweriniaeth Iwerddon/Gogledd Iwerddon), Cyngor Ieuenctid Cenedlaethol Iwerddon (Gweriniaeth Iwerddon), YouthLink (Yr Alban) a CWVYS (Cymru).
• Trwy blatfform democratiaeth ddigidol, mae’r arolwg hwn yn grymuso pobl ifanc i rannu eu barn ar themâu pwysig sy’n cyd-fynd â chwech o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
• Gall Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a Statudol gofrestru i weithio gyda phobl ifanc i’w paratoi i ymateb yn ddienw ac yn hyderus i’r arolwg.
• Mae hyfforddiant, adnoddau ac arweiniad am ddim ar gael i ddarparwyr gwaith ieuenctid ar sut i gefnogi pobl ifanc ac yna defnyddio canlyniadau’r arolwg i lywio a datblygu gwasanaethau lleol.
• Mae angen panel bach o bobl ifanc i gynghori arnom hefyd i gynrychioli eu cyfoedion, lle byddant yn dadansoddi’r ymatebion a’r tueddiadau ac yna’n defnyddio’r data hwn i greu unrhyw fath o gyfryngau i eiriol dros newid a buddsoddiad ar ran eu cymunedau a phob person ifanc ledled Cymru. Gall pobl ifanc wneud cais i fod yn rhan o’r panel drwy Ffurflen Gais Panel Ymgynghorol Ieuenctid. Cliciwch ar y ddolen isod.
Voices for Impact-Wales Youth Advisory Panel Lleisiau dros Effaith-Cymru Panel Ieuenctid
I gofrestru eich sefydliad a’ch pobl ifanc i gwblhau’r arolwg ar blatfform Lleisiau dros Effaith, cliciwch ar y ddolen isod.
Capturing Children and Young People’s Voices For Impact
![]()