Yn gyntaf, roedden ni eisiau diolch i bawb a fynychodd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener diwethaf.
Yn bersonol roeddwn i eisiau diolch i’n Prif Weithredwr Paul a’n Swyddog Cyllid a Gweinyddu Sarah am drefnu popeth, yn ogystal â’r ymddiriedolwyr a’r swyddogion sy’n cadw popeth i fynd o blwyddyn I flwyddyn.
Hwn oedd fy hoff Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol hyd yn hyn (dw i wedi bod yn CWVYS dros 10 mlynedd!) diolch i raddau helaeth i gyflwyniad gwych a sesiwn Holi ac Ateb gyda Catherine Carr ar ei gwaith yn casglu barn a phrofiadau pobl ifanc. Gofynnodd llawer o staff ar draws ein rhwydwaith aelodau gwestiynau gwych iddi ac roedd yn drafodaeth ddiddorol ac ysgogol.
Gallwch ddysgu mwy am Catherine a’i phodlediad yma; https://www.relativelypodcast.com/
Ei llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar; https://www.madeleinemilburn.co.uk/book/whos-the-favourite/
A’i dwy Gyfres BBC wych;