Fel rhan o weithrediad parhaus y Fframwaith Statudol Gwaith Ieuenctid newydd, mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob tîm gwaith ieuenctid Awdurdod Lleol gyflwyno Cynllun Strategol erbyn mis Medi eleni.
Mae hyn cyn i’r Fframwaith ddod i rym ar draws y sector o 1 Ebrill 2027.
Yma gallwch ddod o hyd i dempled o’r Cynllun Strategol er gwybodaeth i chi;
Cynllun Strategol Gwaith Ieuenctid templed_CYM
Rydym yn gwybod bod llawer o’n haelodau’n gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn y Sector Ieuenctid Statudol yng Nghymru ac efallai eich bod eisoes wedi dechrau cael eich cysylltu gan eich Prif Swyddog Ieuenctid (PSI) lleol fel rhan o ddatblygu’r cynlluniau hyn.
Yn ddiweddar, fe wnaethom rannu manylion cyswllt ar gyfer y Prif Swyddogion Ieuenctid yn ôl Awdurdod Lleol yng Nghymru os oedd unrhyw un ohonoch eisiau cysylltu â’ch PSI lleol i drafod cynlluniau sydd ar ddod.