Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn chwilio am unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno â’r panel beirniadu ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2019.

Yn dilyn llwyddiant Gwobrau eleni, rydyn nhw wedi penderfynu ehangu meini prawf y beirniaid er mwyn cael ystod ehangach o sgiliau a gwybodaeth o gwmpas y bwrdd. Maent yn chwilio am unigolion profiadol, o’r sector sy’n teimlo y gallant gyfrannu at drafodaethau a gwneud penderfyniadau ym mhroses beirniadu eleni. Cynhelir y diwrnodau beirniadu ar 26 a 27 Mawrth.

Gallwch ddod o hyd i’r ffurflennu *yma*

Mae’r ffurflenni i’w dychwelyd i Youthworkexcellence.awards@gov.wales erbyn 17 Rhagfyr.