Sefydlwyd Gweithredu Cymunedol Abergele am y tro cyntaf yn 2001 ac ers 2005 buom yn gweithredu o Gaffi Rhyngrwyd ac adnodd TG o’r enw Itaca… ar lawr gwaelod Tŷ Hesketh yng nghanol tref Abergele, ac wedi adleoli yn 2019 i’r Sied Ieuenctid.

Nod Gweithredu Cymunedol Abergele yw ehangu gweithgareddau a chyfleoedd i bobl leol trwy amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys gweithredu Banc Bwyd a gwasanaeth Cyngor Ariannol sy’n darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a gwirfoddoli.

Sied Ieuenctid Abergele 

Dyma ein Prosiect Ieuenctid sy’n darparu ymyrraeth gymunedol wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 10 a 25 oed sydd, neu sydd mewn perygl o gael eu hallgáu, o gyfleoedd cymdeithasol, economaidd, addysgol a digidol prif ffrwd. Gwnawn hyn drwy ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a chyfleoedd o fewn amgylchedd diogel a chyfeillgar.

Sefydlwyd Sied Ieuenctid Abergele, sy’n gysylltiedig â Youth Shedz Cymru, yn 2019 ac mae’r prosiect wedi’i leoli yn ei adeilad ei hun ar safle campws y coleg lleol. Mae’r bobl ifanc wedi bod yn rhan o bob cam o ddatblygiad y prosiect gan gynnwys dylunio, adnewyddu, addurno, marchnata, a chyfryngau cymdeithasol.

Ar hyn o bryd mae Sied Ieuenctid Abergele yn derbyn ystod o gyllid o wahanol ffynonellau fel y gallwn gyflogi gweithwyr ieuenctid i gyflwyno ystod o weithgareddau o’r awyr agored, ysgol goedwig, prosiectau amlgyfrwng, coginio, meddyliau iach a chyrff i enwi dim ond rhai.

Dilynnwch ni ar:

Facebook 

Instagram

YouTube