Loading Events

« All Events

  • This event has passed.

Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

May 17

Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd

Yn flynyddol ers 1922, mae pobl ifanc Cymru wedi rhannu neges o heddwch i’w cyfoedion dros y byd. Hyd heddiw, dyma’r unig neges o’i fath yn y byd ac mae’n draddodiad gwerthfawr sy’n pweru ieuenctid Cymru i ysgogi ac ysbrydoli gweithgarwch dyngarol yn rhyngwladol.

Bydd neges eleni yn cael ei rannu ar gyfrynagu cymdeithasol yr Urdd ar 17/05/2024 | 7:30am BST ar ffurf ffilm fer.

Thema Neges 2024:

Bwriad y Neges eleni yw dathlu Deiseb Heddwch Menywod Cymru a arwyddwyd gan 390,296 o fenywod Cymru yn 1923-1924. Canrif yn ddiweddarach, dyma ddatgan bod merched ifanc Cymru yn parhau i weithredu dros heddwch. Mae’r neges yn ein hysbrydoli i weithredu dros heddwch. Mae’n pwysleisio nad rhyfel a thrais yw’r ateb, ac yn ein hannog i arwain a chydweithredu dros ddyfodol gwell i bawb.

Mae’r Urdd yn gofyn am eich cefnogaeth drwy rannu’r neges fideo ar 17 Mai.

Heddiw – Nodwch yr 17eg o Fai yn eich calendr, a dilynwch yr Urdd ar:

FacebookTwitterLinkedInInstagramTikTok.

I wybod mwy:

Gofynnwn yn garedig i chi ebostio Luned Hunter (Swyddog Rhyngwladol yr Urdd) – lunedhunter@urdd.org – yn cadarnhau eich bod yn hapus i rannu’r neges ar eich cyfrynagu cymdeithasol ar 17 Mai, a bydd Luned yn anfon lincs i’r posts i chi ar fore’r 17eg o Fai.

Gyda’n gilydd galw’n am heddwch ar 17 Mai 2024.

Diolch am eich cefngoaeth.

Details

Date:
May 17