Y Cyngor Prydeinig yw Asiantaeth Genedlaethol y DU ar gyfer Rhaglen Erasmus+, y bydd y DU yn gallu cymryd rhan ynddi eto pan fydd y galwad am gyllid yn agor yn ddiweddarach eleni.

Gan fod y DU wedi bod allan o’r rhaglen ers nifer o flynyddoedd, mae’r Cyngor Prydeinig yn cynnal cyfres o weminarau eglurhaol i gyflwyno (neu ailgyflwyno) y Sector Ieuenctid i’r posibiliadau y gall cyllid Erasmus+ eu cynnig i unigolion a sefydliadau.

Isod gallwch weld rhestr o’r gweminarau sydd ar ddod. Sylwch y byddant yn cael eu recordio a’u rhoi ar-lein ar gyfer unrhyw un na all fod yn bresennol yn fyw.

Os na allwch fod yn bresennol, byddwch yn gallu gweld recordiadau o’r gweminarau yma maes o law; https://www.youtube.com/@ErasmusPlus-UK Mae’n werth tanysgrifio i gael hysbysiadau

Sesiwn Ieuenctid Erasmus+: Symudedd Gweithwyr Ieuenctid

Dyddiad: 12 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Thema Ieuenctid Erasmus+: Prif Weithred 2 (Cydweithredu)

Dydd Gwener 13 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn Ieuenctid Erasmus+: Cyfnewidiadau Ieuenctid

Dydd Llun 16 Tachwedd, 10:00 – 11:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Dechrau gyda Ieuenctid Erasmus+

17 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Ieuenctid Erasmus+: Cynhwysiant DiscoverEU

Dydd Mercher 18 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Sesiwn cyfranogiad Ieuenctid Erasmus+

20 Tachwedd, 12:00 – 13:00 GMT

Cofrestrwch yma

 

Seminar ar Erasmus+ ar gyfer Ieuenctid Gwledig

26 Tachwedd, 13:00 – 17:00 GMT

Cofrestrwch yma

Cofrestrwch erbyn y 22ail o Dachwedd

 

Gwnewch yn siwr fod chi’n tanysgrifio i’r cylchlythr E+ y DU hefyd;https://www.erasmusplus.org.uk/cy/cylchlythyr