Mae gan Glybiau Bechgyn a Merched Cymru ychydig o leoedd ar gael o hyd ar gyfer eu tîm Hanner Marathon Caerdydd.

Drwy ymuno â nhw, bydd pob cam rydych chi’n ei redeg a phob punt rydych chi’n ei godi yn helpu i greu cyfleoedd i bobl ifanc ledled Cymru ddatblygu hyder, meithrin cysylltiadau a mwynhau profiadau cadarnhaol. Yn eu geiriau nhw;

Gallai eich codi arian helpu i ddarparu:
• £20 – Penwythnos antur i bobl ifanc yn ein canolfan breswyl, The Lodge
• £50 – Offer chwaraeon newydd ar gyfer clwb ieuenctid lleol
• £250 – Lle ar ein cwrs Arweinwyr Ifanc, gan helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau a hyder
• £500 – Hyfforddiant i chwe gweithiwr ieuenctid gwirfoddol i gefnogi pobl ifanc yn well
• £2,000 – Cefnogi 12 o bobl ifanc i gymryd rhan yn Her Canŵio 100 milltir

Mae pob cyfraniad yn ein helpu i barhau i ddarparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl ifanc ledled Cymru.

 diddordeb mewn ymuno â Thîm BGC Cymru? Cwblhewch ein ffurflen mynegiant o ddiddordeb neu sganiwch i god QR i sicrhau eich lle. Cynhelir Hanner Marathon Caerdydd 2026 ar y 4ydd o Hydref.