https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2025/11/Youth-led-solutions-to-Conflict-and-Division.jpg
Annwyl Gydweithwyr
Rwy’n ysgrifennu i’ch atgoffa am y prosiect ‘Ymatebion i Wrthdaro a Rhaniadau dan Arweiniad Ieuenctid’ a ariennir gan y Cyngor Prydeinig, a gofyn i chi annog pobl ifanc yn eich sefydliad i wneud cais i gymryd rhan.
Mae hwn yn gyfle unigryw i bobl ifanc (18 – 35 oed) yng Nghymru o ran cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad hanfodol sy’n gysylltiedig â’u CV ac i fod yn rhan o brosiect rhyngwladol pwysig a fydd o fudd i bobl ifanc yng Nghymru ac Uganda.
Nid yw’r ymrwymiad amser i gyfranogwyr yn enfawr. Bydd yn digwydd ar-lein yn bennaf, gydag un digwyddiad hyfforddi wyneb yn wyneb (ar wahân yng Nghymru ac Uganda). Bydd cyfranogwyr yn ennill sgiliau pwysig mewn rheoli prosiectau, datrys gwrthdaro a digidol ac yn dod i adnabod pobl ifanc o gymuned fyd-eang wahanol iawn. Yn ystod y prosiect byddant yn cael eu cefnogi gan staff a’u grymuso i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain a thu hwnt.
Mae amser yn brin: mae angen i ni gynnal cyfarfodydd ar-lein a hyfforddiant ym mis Tachwedd – mis Rhagfyr. Dylai cyfranogwyr anfon mynegiant o ddiddordeb at Jane / Sioned erbyn diwedd y dydd ar 14 Tachwedd, gan amlinellu pam eu bod â diddordeb yn y prosiect a’r hyn y maent yn credu y byddent yn ei gyfrannu ato.
YnglÅ·n â’r prosiect:
Wedi’i ariannu gan y Cyngor Prydeinig, mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA) yn gweithio gyda Care for Uganda / Abaagala Uganda ar Brosiect Cydweithio Ieuenctid, gan gefnogi pobl ifanc yng Nghymru ac Uganda i archwilio achosion gwrthdaro a rhaniadau yn eu bywydau a gweithio gyda’i gilydd i greu atebion dan arweiniad pobl ifanc.
Yn ystod sesiynau ar-lein, bydd cyfranogwyr yn rhannu materion sy’n achosi gwrthdaro a rhaniad yn eu bywydau, gan gynnwys polareiddio ac ymyleiddio, camwybodaeth ac araith gasineb, a chydweithio ar ymgyrch neu adnodd i fynd i’r afael â’r materion hyn gyda’u cyfoedion yng Nghymru ac Uganda.
Mae rhagor o fanylion ynghylch y prosiect, gan gynnwys yr ymrwymiad dan sylw, wedi’u cynnwys ar y daflen atodedig.
Yn gywir
Jane a Sioned
…………………………………….
Dear Colleagues
I am writing to remind you of the British Council-funded ‘Youth-led Responses to Conflict and Division’ project and ask you to encourage young people in your organisation to apply to take part.
This is a unique opportunity for young people (aged 18 – 35) in Wales in terms of supporting participants to develop vital CV-related skills and experience and to be part of an important international project which will be beneficial for young people in Wales and Uganda.
The time commitment involved for participants is not huge and will mostly take place online, with one face to face training event (separately in Wales and Uganda). Participants will gain important project-management, conflict-resolution and digital skills and get to know young people from a very different global community. During the project they will be supported by staff and be empowered to make a difference for young people in their own communities and beyond.
Time is of the essence: we need to get online meetings and training underway in November – December. Participants should send an expression of interest to Jane / Sioned by the end of the day on 14th November, outlining why they are interested in the project and what they think they would bring to it.
About the project:
Funded by the British Council, the Welsh Centre for International Affairs (WCIA) is working with Care for Uganda / Abaagala Uganda on a Youth Collaboration Project, supporting young people in Wales and Uganda to explore causes of conflict and division in their lives and work together to create youth-led solutions.
During online sessions participants will share issues that cause conflict and division in their lives, including polarisation and marginalisation, misinformation and hate speech, and collaborate on a campaign or resource to address these issues with their peers in Wales and Uganda.