![]() Rydym yn falch o gyhoeddi bod tocynnau bellach ar gael ar gyfer un o uchafbwyntiau ein calendr blynyddol, Siarad yn Broffesiynol 2026. Ddydd Mercher 21 Ionawr 2026, 16:00-17:30, ar-lein, bydd Siarad yn Broffesiynol 2026 yn cynnwys yr Athro Kelly Mackintosh o Brifysgol Abertawe fel y prif siaradwr. Bydd y sesiwn yn edrych ar un o’r prif heriau sy’n wynebu’r gweithlu addysg heddiw, sef ymddygiad dysgwyr, a rôl posibl gall gweithgaredd corfforol chwarae yn cynnal ymddygiad a lles cadarnhaol. Mewn ysgolion, colegau, a lleoliadau eraill, mae ymddygiad yn bwnc sy’n gyson yn profi gwydnwch a chreadigrwydd addysgwyr. Mae aflonyddu lefel isel, rheoleiddio emosiynol, datgyweddu, a’r pwysau cynyddol ar les dysgwyr wedi eu hadrodd yn eang. Bydd yr Athro Mackintosh, arbenigwr mewn gweithgaredd coroffol ar gyfer iechyd, yn archwilio sut bydd integreiddio symudiad, o ddysgu actif, a thoriadau byr i addysg gorfforol mwy strwythuredig, yn gallu gwneud newid mesuradwy i ymddygiad ac ymgysylltiad. Bydd y sesiwn 90 munud yn cynwys cyflwyniad ac yna sesiwn holi ac ateb gyda’r prif siaradwr, gan roi cyfle i’r rhai sy’n bresennol rannu eu profiadau eu hun, a holi cwestiynnau i’r Athro Mackintosh. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi na’ch cofrestreion yn colli allan. Mae tocynnau am ddim ar gael nawr. |
| We are pleased to announce that tickets are now available for one of the highlights of our annual calendar, Professionally Speaking 2026. Taking place online on Wednesday 21 January 2026, 16:00–17:30, Professionally Speaking 2026 will feature Professor Kelly Mackintosh of Swansea University as the keynote speaker. The session will explore one of the most pressing challenges facing the education workforce today, learner behaviour, and the potential role physical activity can play in supporting positive behaviour and wellbeing. Across schools, colleges, and other learning settings, behaviour remains a topic that consistently tests educators’ resilience and creativity. Low-level disruption, emotional regulation, disengagement, and the growing pressures on learner wellbeing have all been widely reported. Professor Mackintosh, an expert in physical activity for health, will explore how integrating movement, from active learning and short activity breaks to more structured physical education, can make a measurable difference to behaviour and engagement. The 90-minute session will feature a keynote presentation followed by a live Q&A, giving attendees the opportunity to share their own experiences and put questions directly to Professor Mackintosh. Make sure your registrants don’t miss out. |
