Mae RAY Ceredigion yn darparu gweithgareddau sy’n cefnogi iechyd a lles pobl o bob oed a gallu ledled Ceredigion gan ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed neu dan anfantais.

Mae ein holl weithgareddau’n deillio o ymgynghoriadau ar lawr gwlad ac yn ymateb i anghenion lleol ac maent yn canolbwyntio ar y person ac yn cael eu harwain gan ddefnyddwyr.

Mae staff a gwirfoddolwyr RAY yn ymgynghori’n rheolaidd â chyfranogwyr ein grwpiau i sicrhau bod y gweithgareddau a ddarparwn yn parhau i ymateb i anghenion lleol, ac mae gan ein pwyllgor rheoli gynrychiolaeth o’r grwpiau a gefnogwn.

Os hoffech gefnogi’r gwaith a wnawn, gwirfoddoli gyda rhai o’n gweithgareddau, cymryd rhan yn ein gweithgareddau neu fynychu ein cyfleoedd hyfforddi, cysylltwch i gael gwybod mwy.

Instagram; https://www.instagram.com/ray_ceredigion/