Mae Plan International UK yn elusen plant. Rydym yn ymdrechu i hyrwyddo hawliau plant a chydraddoldeb i ferched ledled y byd.

Rydym yn cydnabod grym a photensial pob plentyn unigol. Ond mae tlodi, trais, gwaharddiad a gwahaniaethu yn aml yn atal hyn. A merched sy’n cael eu heffeithio fwyaf. Mae ein hymgyrch Gan fy mod yn Ferch yn fudiad byd-eang sy’n cymryd camau i weld byd sy’n gwerthfawrogi merched, yn hyrwyddo eu hawliau ac yn dod ag anghyfiawnder i ben.
Rydym yn annog ac yn helpu plant i gymryd rhan weithredol wrth ddod o hyd i atebion i’w problemau a gwireddu eu hawliau a’u potensial llawn.

Mae Plan International UK yn dod â phrosiect Hyrwyddwyr Cymru, ei raglen arloesi fyd-eang ar gyfer cydraddoldeb rhywiol i Gymru. Trwy raglen uchelgeisiol o weithdai, mapio digidol ac ymgyrchoedd dan arweiniad pobl ifanc ar lawr gwlad, rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner ledled Cymru i newid agweddau, herio stereoteipiau a chreu cymdeithas fwy cyfartal i ferched ledled y wlad.