Circus Eruption yw syrcas ieuenctid integredig gyntaf y DU ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n wynebu amrywiaeth o heriau ers bron i 30 mlynedd.

Rydym yn defnyddio sgiliau syrcas i hyrwyddo cynhwysiant, magu hyder a gwytnwch, ond yn bennaf oll mae HWYL! Ar hyn o bryd mae gennym Syrcas Ieuenctid ar gyfer plant 11-18 oed a Syrcas Iau ar gyfer plant 7-11 oed – y ddau yn cael eu cynnal ar nos Fawrth.

Rydym hefyd yn mynd â’n sesiynau allan i’r gymuned a gallwn ddod â rhywbeth gwahanol i ddigwyddiadau o bob math.

Ni fyddai rhedeg ein sesiynau yn bosibl heb waith caled ac ymroddiad ein tîm o wirfoddolwyr – os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno cysylltwch â ni! (nid oes angen sgiliau syrcas i wirfoddoli – ond rydych mewn perygl o ddysgu rhywfaint ar y ffordd).

Cyfleusterau ar gael:

Gallwn ddod â’r syrcas atoch chi! Sesiynau hwyliog, egnïol i bobl ifanc neu oedolion sy’n chwilio am rywbeth gwahanol. Rydym yn cynnig gwasanaeth pwrpasol felly cysylltwch â ni i ddarganfod mwy.