Sefydliad Cymunedol Clwb Pêl-droed Caerdydd yw elusen swyddogol Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd ac maent yn defnyddio apêl unigryw’r Clwb Pêl-droed i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd i gyflawni eu potensial llawn.
Ein tri phrif ganlyniad yw ysbrydoli plant, pobl ifanc a theuluoedd i fyw bywydau iachach, mwy gweithgar, darparu gwell cyfleoedd addysg a chyflogaeth i gymuned De Cymru a lleihau troseddu ac aildroseddu.