Yn yr un modd â’r rhan fwyaf o sefydliadau, rydym ni’n arbrofi ac yn archwilio beth mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn ei olygu i ni fel arolygiaeth, ac i’r sectorau addysg a hyfforddiant.

Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd dros y 9 mis diwethaf a dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Asesiad effaith data cadarn o’n defnydd o offer AI
  • Cynhadledd i’r holl staff ar ddeallusrwydd artiffisial, ble cafodd staff brofiad ymarferol o ddefnyddio offer AI cynhyrchiol yn ddiogel ac yn effeithiol
  • Gwneud cynnydd sylweddol ar 5 prosiect peilot
  • Gosod archwaeth risg a thrin risg yn briodol trwy ein cofrestr risg strategol
  • Arwain prosiect Ewrop gyfan ar y cyd, yn bwrw golwg ar effaith AI ar arolygiaethau
  • Cael ein comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cyflym o’r defnydd o AI mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau)

Gan fod AI yn bwnc mor ddadleuol, sy’n esblygu drwy’r amser, rydym yn awyddus i gyhoeddi ein safbwynt ar ddeallusrwydd artiffisial.

Mae’r ddogfen atodedig yn datgan ein huchelgais, ein hegwyddorion arweiniol ac yn rhoi ein safiad ar ystyriaethau allweddol sy’n gysylltiedig ag AI a’i effaith ar ein gwaith.

Rydym am gyhoeddi hwn ar ein gwefan cyn diwedd y mis ac yn rhannu gyda chi o flaen llaw fel un o’n rhanddeiliaid allweddol. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn neu adborth drwy Cyfathrebu@estyn.llyw.cymru 

Cliciwch ar y ddolen i gael fynediad at ddogfen pdf sy’n egluro amcanion ac egwyddorion arweiniol AI Estyn.

https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2025/06/AI-ambition-Estyn-draft-cy.pdf

Like most organisations we are experimenting and exploring what artificial intelligence means for us as an inspectorate, and for the education and training sectors.

We have made some progress over the past 9 months, with some key highlights being:

  • A robust data impact assessment of our use of AI tools
  • All staff conference on artificial intelligence where staff were given hands on experience of using generative AI tools safely and effectively
  • Significant progress made on 5 pilot projects
  • Risk appetite set and appropriate treatment of risk via our strategic risk register
  • Joint-lead on a European-wide project looking into impact of AI on inspectorates
  • Commissioned by the Welsh Government to undertake a rapid review of the use of AI within schools and PRUs

With AI being such a contentious, and ever evolving subject, we are keen to publish our view on artificial intelligence.

The attached document states our ambition, our guiding principles and gives our position on key considerations relating to AI and its impact on our work.

We will publish this on our website before the end of the month, and we are sharing this with you as one of our key stakeholders. You are more than welcome to ask us questions or provide feedback via Communications@estyn.gov.uk 

Click on the link to gain access to a pdf document that explains Estyn’s ambitions and AI guiding principles. https://www.cwvys.org.uk/wp-content/uploads/2025/06/AI-ambition-Estyn-draft.pdf