Yr wythnos hon yw Wythnos yr Ymddiriedolwyr ! Hoffem ni yn CWVYS dweud diolch o’r galon i’n bwrdd o Ymddiriedolwyr gwych. Eu hymroddiad a’u cefnogaeth, flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n ein cadw ar y trywydd iawn; fyddem ni ddim yr un peth hebddynt.

Os ydych chi’n fusnes, mae gennym gyfle gwych i aelodau o’ch staff sy’n anelu at fod yn arweinwyr yn y dyfodol. Gallant ddatblygu eu rhinweddau unigryw drwy ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr un o’n sefydliadau aelod.
Fel rhan o’n prosiect ‘Ymddiriedolwyr ar y Bwrdd’, rydym yn cefnogi unigolion brwdfrydig a thalentog – sydd â diddordeb yn y sector ieuenctid gwirfoddol – i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau drwy wirfoddoli fel Ymddiriedolwr.
Mae cymorth un-i-un ar gael, ac mae nifer o grwpiau ieuenctid ledled Cymru yn awyddus i groesawu pobl newydd i’w Byrddau.
Mwy o wybodaeth yma; https://www.cwvys.org.uk/ymddiriedolwyr-ar-bwrdd/?lang=cy
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’n Cydlynydd Ymgynghorol Gwirfoddolwyr Busnes, Eifion Williams, trwy Eifion@cwvys.org.uk