
Mae’r Cyngor Prydeinig (British Council) wedi comisiynu CWVYS i redeg Canolfan Sector Ieuenctid Erasmus Plus ar gyfer Cymru, o 2 Tachwedd 2026 tan ddiwedd mis Mawrth 2027.
Bydd hyn yn golygu y byddwn yn cynnig cymorth gwell i’r sector ar gyfer darpar ymgeiswyr Erasmus+ (Sector Ieuenctid) yng Nghymru.
Byddwn yn rhannu rhagor o fanylion gyda chi yn rheolaidd – cadwch lygad am ein negeseuon!
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, rhowch wybod i ni.
Cadwch y dyddiad
Rhowch 9.00am–2.00pm ar 2 Rhagfyr yn eich dyddiaduron.
Cynhelir digwyddiad wyneb yn wyneb, a drefnir gan dîm Sector Ieuenctid y Cyngor Prydeinig (gyda CWVYS), yn swyddfeydd Urdd Gobaith Cymru ym Mae Caerdydd. Bydd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol yn annerch y digwyddiad.
Rhagor o wybodaeth i ddilyn.