Gwelwch isod neges wrth ein cydweithwyr yn y Llywodraeth Cymru:
Yn dilyn sefydlu Dysgu, ein corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth, rydym wedi penderfynu y bydd cyfrifoldeb am y PDP yn trosglwyddo o Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) i Dysgu o fis Medi 2028. Hoffem ddiolch i’r CGA am ddatblygu a chynnal y PDP hyd yma.
Mae rhaglenni Dysgu yn canolbwyntio ar ymarferwyr ysgolion. Fodd bynnag, o ran y PDP yn benodol, bydd Dysgu yn gallu darparu gwasanaethau ar gyfer ymarferwyr eraill os mai dyna fydd yr opsiwn a ffefrir sy’n deillio o’r broses ddarganfod ac ymgysylltu.
Yr uchelgais y tu ôl i’r newid hwn yw parhau i gefnogi myfyrio, ymholi a thaith ddysgu broffesiynol gydlynol drwy gydol gyrfa ymarferwr, gan sicrhau aliniad agosach â’r trefniadau ehangach ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth yng Nghymru.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithio’n agos gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a defnyddwyr er mwyn sicrhau bod trefniadau’r dyfodol yn diwallu anghenion y gweithlu addysg, yn ogystal â rhaglenni a gweithgareddau sy’n defnyddio’r PDP ar hyn o bryd. Felly, rydym ar ddechrau proses ddarganfod ac ymgysylltu, lle byddwn yn gweithio gyda chi mewn ffordd gydweithredol i ddeall y defnydd presennol, nodi gofynion y dyfodol ac ystyried y cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â’r newid arfaethedig cyn mis Medi 2028.
Nid oes unrhyw newidiadau i ddefnyddwyr y PDP ar hyn o bryd, ac un o’n prif flaenoriaethau fydd sicrhau parhad gwasanaeth drwy gydol y cyfnod pontio. Rydym yn cydnabod y bydd rhai rhaglenni a gweithgareddau sy’n cael eu cefnogi drwy’r PDP ar hyn o bryd yn parhau y tu hwnt i fis Medi 2028, a byddwn yn gweithio’n agos gyda darparwyr a chyfranogwyr perthnasol i sicrhau bod trefniadau pontio priodol yn cael eu rhoi ar waith. Bydd gwasanaethau’r dyfodol ar ôl mis Medi 2028 yn dibynnu ar adborth gan ddefnyddwyr a rhanddeiliaid eraill.
I gefnogi’r gwaith hwn, mae Atodiad 1 (ynghlwm) yn amlinellu cynllun prosiect lefel uchel drafft ar gyfer y trosglwyddiad, a fydd yn cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn parhau i gael ei fireinio yn ystod y cyfnod darganfod wrth i drefniadau llywodraethu, rolau a chyfrifoldebau, a cherrig milltir allweddol gael eu datblygu.
Byddwn yn darparu rhagor o wybodaeth am weithgareddau ymgysylltu arfaethedig a chyfleoedd i gyfrannu maes o law.
Yn y cyfamser, mae croeso i chi rannu’r wybodaeth ddiweddaraf hon gyda chydweithwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, cysylltwch ag IsadranYmarferwyrYsgolion@llyw.cymru.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch cyfranogiad yn y gwaith pwysig hwn.
Yn gywir
Is-adran Ymarferwyr Ysgolion