Mae Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange (GPYF) yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau yng nghymuned Grangetown, fel y fforwm busnes, clybiau pêl-droed ac ymweliadau â Phrifysgolion.
Mae aelodau’r Fforwm Ieuenctid yn cyfrannu at Bafiliwn Grange trwy eu presenoldeb ar y Bwrdd, gan fwydo i waith ehangach y Pafiliwn a sicrhau y gall cynrychiolwyr ieuenctid chwarae rhan fwy canolog yn strategol.
Mae GPYF yn hynod boblogaidd gyda phobl ifanc Grangetown, gyda rhwng 30-40 o blant o bob oed yn mynychu sesiynau bob wythnos. Mae croeso i bobl ifanc a phlant rhwng 11-25 oed ddod draw.
Oriau Agor:
Dydd Mercher a Dydd Gwener; 6:00 yp – 9:00 yp
Instagram; https://www.instagram.com/gpyouthforum/