Neges wrth Urdd Gobaith Cymru

19 Mai – Diwrnod Neges Heddwch Urdd Gobaith Cymru

Yn ddi‑dor ers 1922, mae Urdd Gobaith Cymru wedi creu Neges Heddwch ac Ewyllys Da, gan ei rhannu gyda phobl ifanc ar draws y byd. Bwriad y Neges yw uno plant a phobl ifanc ym mhob cwr o’r byd, gan eu hysbrydoli i weithredu’n ddyngarol, ac i feithrin cysylltiadau rhyngwladol cadarnhaol.

Hanes y Neges – yma

Eleni mae Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd yn canolbwyntio ar Ieithoedd Lleiafrifol.

Gyda dros 7,000 o ieithoedd ledled y byd, ac arbenigwyr yn rhagweld y bydd hanner ohonynt wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif, mae’r Neges yn datgan yn glir yr angen i ni ddiogelu ieithoedd lleiafrifol cyn iddynt ddiflannu am byth.

Pwrpas y Neges yw addysgu pobl ar draws y byd am yr ieithoedd hyn, ac annog iddynt eu gwerthfawrogi, eu dysgu a’u defnyddio.

Mae geiriau’r neges ar gael mewn sawl iaith, ac mae pecyn addysg gan Dr Ianto Gruffydd ar gael yma ar ein gwefan.

Sut i gefnogi y Neges ar y 19 Mai:

Ar fore’r 19 Mai, bydd fideo o eiriau’r Neges yn cael ei rannu. Rhannwch y fideo, lledaenwch y geiriau, a defnyddiwch #Heddwch2026 i uno’r neges ar draws y byd.

Darllenwch eiriau’r Neges Heddwch | Urdd Gobaith Cymru, maent ar gael mewn sawl iaith, yn ogystal â phecyn addysg. Rhannwch y ddolen i wefan yr Urdd gyda chymaint o gysylltiadau a phosib.

Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth

Mae heddwch yn siarad pob iaith

#Heddwch2026 

Neges Heddwch | Urdd Gobaith Cymru

heddwch@urdd.org