Yn ScoutsCymru rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod bob wythnos yng Nghymru, yn rhoi cyfle i dros 14,000 o bobl ifanc ledled Cymru fwynhau hwyl ac antur, wrth ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo nawr, ac yn y dyfodol.

O abseilio a chodio i ddrama a zorbio dŵr, rydym yn annog ein pobl ifanc i wneud mwy, dysgu mwy a bod yn fwy.

Diolch i gefnogaeth dros 5,000 o wirfoddolwyr, rydym yn creu cymunedau cryfach yng Nghymru ac yn ysbrydoli dyfodol cadarnhaol i bobl Cymru.

Mae pobl ifanc y Sgowtiaid yn cymryd rhan mewn rhaglen gyffrous o weithgareddau o gaiacio i godio. Maent yn datblygu sgiliau cymeriad fel gwytnwch, menter a dycnwch; sgiliau cyflogadwyedd fel arweinyddiaeth, gwaith tîm a datrys problemau; a sgiliau ymarferol fel coginio a chymorth cyntaf. Ac mae ymchwil yn profi ei fod yn gweithio mewn gwirionedd. Dywed adroddiad yn 2018 fod Sgowtiaid 17% yn fwy tebygol o ddangos sgiliau arwain a gweithio’n dda mewn timau. Maen nhw draean yn fwy tebygol o gefnogi eu cymunedau hefyd.

Rydym yn cefnogi pobl ifanc rhwng 6 a 25 oed o bob rhyw, ethnigrwydd, cefndir a chymuned bob noson o’r wythnos.

https://www.instagram.com/ScoutsCymru/