Yn ddiweddar fe wnaethom rannu’r adnoddau ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid eleni

Rhaglen Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid ar gyfer 2024 – 2025

Ond mae Wythnos Gwaith Ieuenctid ond yn un rhan o Raglen Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid gan Cangen Ymgysylltu Ieuenctid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024 – 2025, sydd ar gael yma; Gwaith ieuenctid – rhaglen farchnata 2425 (dwyieithog)

Efallai y byddai gennych ddiddordeb mewn gwybod bod y tîm yn bwriadu datblygu rhwydwaith o Bencampwyr Gwaith Ieuenctid trwy gydol y flwyddyn i dynnu sylw at ragoriaeth arloesi, gan ehangu ar y thema ‘Pam Gwaith Ieuenctid?’. Os ydych yn gwybod am brosiect yr hoffech ei amlygu, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk.

Bwletin

Mae Manon hefyd yn goruchwylio’r Bwletin Gwaith Ieuenctid os hoffech gyfrannu cynnwys ar gyfer y rhifyn nesaf, anfonwch ef ati erbyn 17 Mehefin. I gael rhagor o fanylion am gategorïau erthyglau, cysylltwch â manon@cwvys.org.uk.