Rydym yn falch o gyhoeddi bod fersiwn newydd llyfryn ‘Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ bellach ar gael.

GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION

Cynhyrchwyd y ddogfen hon ar gyfer rheolwyr ac ymddiriedolwyr mudiadau ieuenctid, gwleidyddion, aelodau a swyddogion etholedig awdurdodau lleol, ymarferwyr, hyfforddwyr a phobl sy’n hyfforddi i fod yn weithwyr ieuenctid a gweithwyr cefnogaeth ieuenctid.

Mae hefyd wedi cael ei ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc, y sawl sydd eisoes yn ymwneud â mudiadau ieuenctid a’r sawl sy’n dymuno darganfod mwy am y mathau o brofiadau y gall mudiadau ieuenctid eu darparu.

Cynhyrchwyd ‘Gwaith ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion’ ar sail gydweithredol gan gynrychiolwyr y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol ac awdurdod lleol yng Nghymru, ac ar y cyd â Chyngor y Gweithlu Addysg.

Mae ar gael yma GWAITH IEUENCTID YNG NGHYMRU EGWYDDORION A DIBENION neu ar www.wlga.org.uk

cwvys_logo

Claire Cunliffe
Cadeirydd CWVYS

pyo


Steve Davis
Cadeirydd Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid

QsJwklQT

Hayden Llewellyn
Prif Swyddog Gweithredol Cyngor y Gweithlu Addysg

Tachwedd 2018