Mae hon yn neges bwysig ynglŷn ag Wythnos Gwaith Ieuenctid, mae Ellie Parker wedi bod yn gweithio’n galed (mewn amser hynod o fyr!) i greu pecyn adnoddau ar gyfer y sector gwaith ieuenctid cyfan, i’w gwneud yn haws i chi rannu’ch straeon a chael cymryd rhan ar-lein yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid. Mae’r holl wybodaeth isod, os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi cyn cysylltu ag ellie@cwvys.org.uk 

Er hwylustod yma gallwch ddod o hyd;

 

 

Gair o Ellie;

Ydych chi’n barod ar gyfer Wythnos Gwaith Ieuenctid?

Mae Wythnos Gwaith Ieuenctid yn ddathliad blynyddol o waith ieuenctid ledled Cymru. Mae’n gyfle i bobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau gwaith ieuenctid fyfyrio ar yr heriau a dathlu canlyniadau cadarnhaol y 12 mis diwethaf.

Eleni, byddwn yn tynnu sylw at yr arloesedd, y gwytnwch a’r dyfeisgarwch y mae’r sector wedi’i ddangos yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd.

Trwy’r thema ‘Mynegiadol’ byddwn yn anelu at dynnu sylw at sut mae gwaith ieuenctid yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu sy’n annog ac yn galluogi pobl ifanc i fynegi eu syniadau, eu barn, eu hemosiynau a’u dyheadau trwy ystod o gyfleoedd creadigol a heriol. Byddwn yn dathlu’r buddion y mae pobl ifanc yn eu hennill o’u hymgysylltiad â gwasanaethau gwaith ieuenctid, yn enwedig o ran materion hunaniaeth, hunanfynegiant a hyder.

Hoffem weld llawer o enghreifftiau o arfer gorau o waith ieuenctid o bob rhan o Gymru a hoffem i bobl ifanc afael ar y cyfle hwn i fynegi eu syniadau a’u barn ar bynciau neu faterion sy’n cael effaith ar eu bywydau.

Mae’n hawdd iawn cymryd rhan!

Mae’r wythnos yn rhedeg rhwng 23 a 30 Mehefin ac rydym yn hoffi gweld llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gorlifo â’ch straeon ysbrydoledig, gan ddefnyddio’r hashnod #DymaWaithIeuenctid.

Rydym wedi creu pecyn cyfathrebu i’ch helpu chi (mae’n cynnwys graffeg / baneri dwyieithog a chynnwys enghreifftiol ar gyfer cyfryngau cymdeithasol y gallwch chi eu haddasu i weddu i’ch sefydliad).

Mae pob diwrnod o’r wythnos yn gyfle i dynnu sylw at gyflawniadau a chanlyniadau sy’n dangos y buddion y mae gwaith ieuenctid yn eu creu i bobl ifanc. Mae pob diwrnod hefyd yn gyfle i ddweud diolch a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae pawb sy’n gweithio mewn gwasanaethau gwaith ieuenctid wedi’i wneud i bobl ifanc a chymunedau.

Dyma ychydig o ffyrdd y gallech chi ystyried cymryd rhan:

Rhannwch ffotograffau * – cofiwch ddal atgofion a rhannu profiadau, beth bynnag rydych chi wedi’i gynllunio yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid! Tynnwch ddigon o luniau i’w rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol (a pheidiwch ag anghofio ein tagio ni @YWWales a @cwvys)!

Creu fideo ar gyfer cyfryngau cymdeithasol * – ystyriwch ddefnyddio’ch ffôn i ddal a rhannu lluniau o weithgareddau rydych chi’n rhan ohonynt yn ystod yr wythnos neu ofyn i bobl am eu barn ar yr hyn y mae #DymaWaithIeuenctid yn ei olygu iddyn nhw.

Darparwch astudiaeth achos fer * i ddangos yr ymgyrch #DymaWaithIeuenctid – p’un a ydych chi’n weithiwr ieuenctid, yn rhiant neu’n berson ifanc, byddem wrth ein bodd yn clywed eich meddyliau. Cysylltwch ag ellie@cwvys.org.uk os hoffech gael cefnogaeth i ddatblygu ac ysgrifennu eich astudiaeth achos.

Dilynwch ni ar @YWWales i gael newyddion, i ddarganfod beth sydd ymlaen ac i rannu’ch straeon gan ddefnyddio #DymaWaithIeuenctid.

Mae cymaint o straeon rhyfeddol o waith ieuenctid i’w dathlu – gadewch inni sicrhau ein bod yn eu rhannu ac yn gwneud ein gorau i roi’r gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu i bobl ifanc yng Nghymru a phawb sy’n eu cefnogi.

 

* Sicrhewch eich bod yn gwirio bod gennych y caniatâd perthnasol wrth rannu lluniau neu fideos ar-lein ac mae’n syniad da osgoi sôn am enwau llawn neu gynnwys unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu hunaniaeth yr unigolyn. Gair i gall – os ydych yn ansicr, peidiwch â’i bostio!