Efallai y bydd rhai ohonoch yn ymwybodol bod CWVYS wedi penodi Rheolwr Datblygu yn ddiweddar sydd wedi bod yn gweithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu rhanbarthol a’r Cydlynwyr Trais Difrifol sydd newydd eu penodi, i gefnogi datblygu Cronfa Gymunedol Atal Trais Difrifol (CGATD).

Mae’r Gronfa Gymunedol yn rhan o strategaeth ataliol Cymru gyfan, sy’n cefnogi gweithgareddau cadarnhaol, dargyfeiriol gyda phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn trosedd a thrais difrifol.

Bydd canlyniadau’r prosiect yn helpu i lywio Strategaeth Trais Difrifol Cymru, gan nodi dulliau a gweithgareddau effeithiol gyda phobl ifanc.

Rydym bellach mewn sefyllfa i allu lansio’r gronfa gydag aelodau CWVYS.

Dyma’r ffurflen gais a’r canllawiau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 17 Mai 2019 gyda phrosiectau llwyddiannus yn dechrau o 17 Mehefin 2019.

Bydd CWVYS yn cefnogi cam cyntaf y broses ymgeisio, ac yn darparu argymhellion ar draws rhanbarthau ar gyfer Byrddau Gweithredu Prosiectau Lleol, gan wneud penderfyniadau terfynol.

Bydd ein Rheolwr Datblygu Kath ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau sydd gennych am y gronfa yng nghyd-destun y canllawiau, ond yn amlwg ni fydd yn gallu rhannu unrhyw wybodaeth a allai fod o fantais i’r rhai sy’n gwneud cais. Gallwch ei chyrraedd trwy: kathryn@cwvys.org.uk