Wyddoch chi am athro/athrawes arbennig sy’n haeddu cydnabyddiaeth? A oes rhywun yn eich ysgol leol yn haeddu cael ei ddathlu? Yw eich staff addysgu ar flaen y gad ym maes technoleg neu ddefnyddio’r Gymraeg?

Wel, mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru yn cael eu cynnal eto yn 2019! Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, yn chwilio am y gweithwyr proffesiynol gorau yn y byd addysg yng Nghymru a’r rhai sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i’w hysgol neu leoliad addysg.

Mae deg categori eleni, gan gynnwys Athro’r Flwyddyn, Pennaeth y Flwyddyn, Defnyddio’r Gymraeg mewn Ffordd sy’n Ysbrydoli, ac yn newydd ar gyfer 2019, Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion, felly mae digonedd o gyfleoedd i’ch ysgol gael y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.

Os ydych yn athro, athrawes, myfyriwr, rhiant, cyflogwr neu gydweithiwr ac yn gwybod am rywun sy’n haeddu Gwobr Addysgu Proffesiynol, mae gennych tan hanner nos ar 30 Tachwedd 2018 i enwebu ar-lein yn: llyw.cymru/gwobrauaddysgucymru