Mae ymdrech ar droed yng ngogledd Cymru i ddod o hyd i bobl ifanc i gymryd rhan mewn menter arloesol er mwyn helpu i lunio blaenoriaethau plismona yr ardal.

Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, yn chwilio am dîm o 30 o bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i ddod yn aelodau o Gomisiwn Ieuenctid cyntaf Cymru a fydd yn cael ei oruchwylio gan ei ddirprwy, Ann Griffith.

Bwriedir ymgynghori â’r Comisiwn Ieuenctid ynghylch y blaenoriaethau plismona ar gyfer gogledd Cymru, yn enwedig yr elfennau sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Bydd yr aelodau’n cael eu hyfforddi gan Leaders Unlocked, menter gymdeithasol arbenigol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ledled y DU ac sydd wedi bod yn rhedeg wyth cynllun tebyg ar draws Lloegr ers 2013.

Mae recriwtio bellach wedi cychwyn gyda gwybodaeth a ffurflenni cais ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a’r bwriad yw penodi’r Comisiynwyr Ieuenctid o bob rhan o ogledd Cymru erbyn diwedd Gorffennaf er mwyn dechrau eu hyfforddi ym mis Awst.

Am fwy o wybodaeth ewch i *Comisiwn Ieuenctid Gogledd Cymru*

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Gorffennaf y 29ain a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dod o bob rhan o gymdeithas, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi dod i gyffyrddiad â’r gyfraith, a chyda phresenoldeb cynrychioliadol o siaradwyr Cymraeg.