Mae Talking Hands yn glwb ieuenctid yn Abertawe sy’n agored i blant a phobl ifanc Byddar neu drwm eu clyw ledled Cymru, trwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac ymwybyddiaeth o faterion byddar mae’r clwb ieuenctid yn cynnig cefnogaeth ac yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau a phrofiadau sy’n annog aelodau i ddysgu, datblygu sgiliau newydd, cael hwyl a mwynhau eu hunain.

O fewn y clwb mae yna ddau grŵp, un ar gyfer plant 10 – 17 oed sy’n cyfarfod bob nos Wener o 6.30pm – 9pm yng Nghanolfan Byddar Abertawe; a grŵp ar gyfer pobl ifanc 18 – 30 oed sy’n trefnu cyfarfodydd rheolaidd a digwyddiadau cymdeithasol.

Mae yna hefyd grŵp rhieni a phlant bach ar gyfer rhieni plant byddar rhwng 0-6 oed, neu rieni byddar plant clyw, bob nos Fercher o 4pm – 6pm.