Mae Sound Progression yn elusen a arweinir gan Dduon yng Nghaerdydd sy’n ymroddedig i wella bywydau plant a phobl ifanc 11 i 24 oed, ac yn enwedig y rhai o gefndiroedd amrywiol ac economaidd-gymdeithasol difreintiedig.

Rydym yn meithrin lles emosiynol a hunan-ddatblygiad trwy ddefnyddio gwerthfawrogiad ar y cyd o gerddoriaeth boblogaidd a threfol fel ein prif offeryn ymgysylltu a chreu cyfnewidiadau ystyrlon sy’n manteisio ar ddiddordeb pobl ifanc mewn cerddoriaeth ac yn ei harneisio ymhellach.
Lleolir ein gwaith ar lawr gwlad ac fe’i cyflwynir mewn stiwdios cerdd llawn offer sydd wedi’u lleoli ym mhob un o saith clwb ieuenctid sefydledig Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn Nhrelái; Llaneirwg; Llanedern; Butetown; Sblot; Llanrhymni a chanol y ddinas. Mae ein rhaglen yn ystod y tymor yn cynnwys 45 o sesiynau tair awr o fentora ieuenctid yr wythnos, yn cefnogi tua. 70 o bobl ifanc yr wythnos, a chaiff ei hwyluso am ddim i gyfranogwyr gan ein tîm o naw o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth.

Mae ein sesiynau pwrpasol a theilwredig yn cynnwys dysgu sut i weithredu desgiau sain, meddalwedd cynhyrchu ac offer recordio i rap/ysgrifennu caneuon, hyfforddiant lleisiol a sgiliau perfformio. Rydym yn cynnig cymhellion a gwobrau clir, diriaethol megis cyd-greu traciau cerddoriaeth wreiddiol, cynhyrchu recordiadau o safon, ennill sgiliau ac achrediadau newydd a chynnal perfformiadau cymunedol lleol a digwyddiadau digidol – gan annog pobl ifanc i gymryd yr awenau wrth benderfynu sut y caiff hyn ei reoli a pa fformat.

Gallwch ddod o hyd i fanylion y rhaglenni a gynigir yma; https://soundprogression.co.uk/programmes/

https://www.instagram.com/sound_progression/