Mae Sgiliau a Gwirfoddoli Cymru (SVC) yn elusen fach a arweinir gan bobl ifanc yng Nghaerdydd.

Wedi’i sefydlu gan fyfyrwyr ar ddiwedd y 1960au, nod SVC oedd cefnogi gweithredu cymdeithasol. Rydym bellach yn hwyluso 30+ o brosiectau ar draws Caerdydd, Bro Morgannwg a RhCT, gan gefnogi 400+ o bobl i wirfoddoli bob blwyddyn. Mae mwyafrif ein gwirfoddolwyr rhwng 18-25 oed, fodd bynnag rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw aelod o’r gymuned 18+ oed.

Mae ein prosiectau yn cefnogi grwpiau difreintiedig amrywiol, yn amrywio o blant ac oedolion ag anableddau corfforol a/neu ddysgu, gofalwyr ifanc, y gymuned ddigartref ac oedolion â chyflyrau iechyd meddwl. Mae gennym Bwyllgorau EDI ac Amgylcheddol gweithgar sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod SVC yn dysgu ac yn datblygu’n barhaus.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag elusennau lleol, Heddlu De Cymru a’r GIG i wella bywydau ein buddiolwyr, meithrin datblygiad sgiliau ein gwirfoddolwyr a cheisio gwneud De Cymru yn gymuned fwy diogel a gwyrddach.
Credwn y dylai pawb gael y cyfle i “roi ychydig, ac ennill llawer”.

https://www.instagram.com/svcymru/
Linkedin.com/company/skills-volunteering-cymru
You Tube – Yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd