Mae Kidscape yn elusen gwrth-fwlio a sefydlwyd ym 1985 ac mae’n gweithio gyda phlant, teuluoedd ac ysgolion ledled Cymru.

Ein gweledigaeth yw i bob plentyn dyfu i fyny mewn byd sy’n rhydd o fwlio a niwed, gydag oedolion sy’n eu cadw’n ddiogel ac yn eu helpu i gyrraedd eu potensial llawn.

Ein cenhadaeth yw rhoi cyngor, hyfforddiant ac offer ymarferol i blant, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i atal bwlio ac amddiffyn bywydau ifanc.

 

Hyfforddiant a gynigir:

Gweithdai gwrth-fwlio ZAP
Gweithdai pontio RISE
RISE Hyfforddi’r Hyfforddwr
Hyfforddiant Arweinydd Cymunedol
Gweithdai Ymwybyddiaeth Diogelwch Digidol
Mentora Cymheiriaid
Hyfforddiant Amddiffyn Plant – Lefel Sylfaen ac Uwch