Newid Bywydau Cam wrth Gam

Elusen gyfiawnder cymdeithasol yw CBSA.  Wedi’i sefydlu 30 mlynedd yn ôl, mae ein gweledigaeth yn aros yr un fath. Rydym yn gweithio i greu cymunedau cryf lle gall unigolion ffynnu ac nid dim ond goroesi.

Rydym yn dîm o bobl ymroddedig ac angerddol sydd i gyd yn cefnogi cymunedau ac unigolion i ffynnu a chyrraedd eu potensial. Rydym hefyd yn cael ein cefnogi gan dîm o wirfoddolwyr gwych sy’n ei gwneud hi’n bosibl i ni gyflawni popeth a wnawn.

Mae ein Hyb Cymunedol yn Stebonheath wedi’i leoli yn ardal Stebonheath yn Llanelli mewn hen ysgol.

Mae’n darparu llu o wasanaethau o dan yr un to; o fwyd ffres o ansawdd gwych na fydd yn torri’r banc, i’r defnydd o offer TG am ddim, oergell a chegin gymunedol, i gyfnewidfa dillad a theganau, cyfnewidfa lifrai a Llyfrgell o Bethau! Rydym hyd yn oed yn cynnal gweithdai ymarferol a dosbarthiadau yno.

Mae’n ganolbwynt cymunedol prysur sy’n darparu atebion ymarferol i’r pryderon economaidd ac amgylcheddol sy’n wynebu cymunedau heddiw.