Wedi ei gydlynu gan Robert Burton, gweithiwr ieuenctid cymwysedig a rheolwr gyda dros 35 mlynedd o brofiad mewn gwaith ieuenctid sy’n seiliedig ar ffydd, ac 16 mlynedd mewn gwaith ieuenctid statudol ac agenda genedlaethol 6 blynedd ’trwy hyfforddi gweithwyr ieuenctid ledled Cymru drwy’r sector gwirfoddol.

Mae’r Rhwydwaith yn bodoli i gefnogi gweithwyr ieuenctid Cristnogol, ysbrydoli rhagoriaeth wrth ddarparu ac i gynnig hyfforddiant ac adnoddau o ansawdd uchel i weithwyr ieuenctid yn rhanbarth De-ddwyrain Cymru. Hyrwyddo gwaith ieuenctid Cristnogol, arweinwyr a gweithwyr.

Rhesymeg y rhwydwaith yw cefnogi’r arweinwyr ieuenctid a’r gweithwyr ar lawr gwlad o amrywiaeth o safbwyntiau a lleoliadau, gan arfogi, ysbrydoli, adeiladu ymdeimlad o dîm ac undod ag amrywiaeth. Dull proffesiynol sy’n cynnig mewnwelediad a syniadau ymarferol a chefnogaeth ar gyfer yr heriau sy’n eu hwynebu yn eu cymunedau. Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth.

 

Manylion hyfforddiant:

  • Adeiladu gweledigaeth / Creu Diwylliant
  • Creu tîm o safon / Buddsoddi mewn eraill a Chymhelliant
  • Datblygu arweinyddiaeth a Rhinweddau Gweithiwr Ieuenctid
  • Goruchwyliaeth Broffesiynol
  • Ffiniau Proffesiynol a Rheoli Amser
  • Rheoli ymddygiad heriol
  • Gwaith grwp
  • Cynllunio a darparu gweithdai effeithiol
  • Rhedeg cyngherddau gweddi
  • Cynllunio rhaglenni / Rheoli Digwyddiadau
  • Sicrwydd Ansawdd – gwaith papur
  • Ymarfer Myfyriol
  • Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol
  • Allgymorth a gwaith ieuenctid ar wahân
  • Technegau Ymgynghori a Gwerthuso,
  • Gwaith Ieuenctid Cristnogol – Disgyblu a Mentora pobl ifanc ac arweinwyr
  • Diogelu mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid
  • Sut i ddysgu pobl ifanc mewn lleoliad sy’n seiliedig ar Ffydd