Cenhadaeth CASCADE yw gwella lles, diogelwch a hawliau plant a’u teuluoedd. Rydym yn gwneud hyn trwy gynhyrchu gwybodaeth newydd am ofal cymdeithasol plant a rhannu gwybodaeth newydd a phresennol mewn ffyrdd sy’n helpu gwasanaethau. Ein nodau, i gefnogi’r genhadaeth hon, yw:

  • Gwneud ymchwil rhagorol
  • Cefnogi a datblygu pobl trwy gydol eu gyrfaoedd, gan gynnwys arwain y genhedlaeth nesaf o arweinydd ymchwil
  • Cynnwys y rhai sydd â phrofiad o dderbyn gwasanaethau ar draws ein gwaith mewn ffyrdd canlyniadol
  • Ymgysylltu’r sector mewn ymdrechion parhaus ac ystyrlon i ddeall a defnyddio gwybodaeth ymchwil

Fel rhan o’n gwaith ymgysylltu a chynnwys, mewn partneriaeth â Voices From Care Cymru rydym yn rhedeg grŵp Cynghori Ymchwil Lleisiau CASCADE. Mae hwn yn grŵp o bobl ifanc â phrofiad gofal sy’n cynghori ar brosiectau ymchwil o ddylunio i ledaenu. Rydym hefyd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ehangach i ymgynghori, cydweithredu neu gyd-gynhyrchu ymchwil.