Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn sefydliad gwaith ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol gydag aelod-glybiau ledled Cymru.

Mae gwreiddiau’r Sefydliadau yn tarddu yn gynnar yn y 1920au yng nghymoedd cloddio glo De Cymru.Heddiw, mae gan y sefydliad aelodaeth o dros 25,000 o bobl ifanc mewn 150 o glybiau cysylltiedig, gyda chefnogaeth dros 2,500 o wirfoddolwyr hyfforddedig.

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru wedi bod yn cyflwyno gwaith ieuenctid ers dros 90 mlynedd ac wedi ymrwymo i ddarparu’r gorau i bobl ifanc a’u galluogi i ennill y sgiliau i ddatblygu. Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru ar flaen y gad ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru ac yn awyddus iawn i gynrychioli barn ein pobl ifanc, arweinwyr a chlybiau ar lefel genedlaethol.

BGC Instagram: https://www.instagram.com/bgcwales