Diweddariad gan Lywodraeth Cymru: Gwaith Ieuenctid yng Nghymru – Beth mae hyn yn ei olygu i bobl ifanc?

Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn siarad â’r sector gwaith ieuenctid am ei brofiadau a’i syniadau ynghylch y gwasanaethau ieuenctid a’r gweithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc yng Nghymru. Mae hyn er mwyn helpu i ddatblygu cynigion i gryfhau’r gofynion cyfreithiol ar gyfer gwaith ieuenctid. Gallwch ddarllen mwy am rai o’r negeseuon allweddol o’r sgyrsiau hynny yma.

Ers hynny, rydym wedi cwrdd ag ystod eang o bartneriaid a sefydliadau i archwilio rhai themâu a materion mewn mwy o fanylder.

Er mwyn ein helpu i symud y gwaith hwn yn ei flaen a sicrhau ei fod yn adlewyrchu barn a phrofiadau pobl ifanc, rydym am glywed gennych chi. Os ydych chi’n berson ifanc rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru, mae gyda ni ddiddordeb mewn dysgu mwy am eich profiadau o waith ieuenctid a chlywed eich syniadau am sut y gallwn barhau i dyfu a datblygu, ochr yn ochr â gwasanaethau pwysig eraill sy’n gweithio’n galed i helpu pobl ifanc i fod yn hapus, yn iach ac yn gysylltiedig cymaint â phosibl.

P’un a ydych yn cymryd rhan mewn gwaith ieuenctid rheolaidd neu achlysurol, neu os nad ydych wedi cael y cyfle eto, hoffem ofyn y cwestiynau canlynol i chi:

  1. Pa ddarpariaeth gwaith ieuenctid sydd ar gael yn eich cymuned neu ar-lein ar hyn o bryd sy’n rhoi’r cyfle i chi gwrdd â ffrindiau, rhoi cynnig ar bethau newydd a chael cyngor a chefnogaeth pan fydd angen?
  2. A oes unrhyw beth sy’n stopio neu’n ei gwneud hi’n anodd i chi gael mynediad at y ddarpariaeth gwaith ieuenctid hwn ar hyn o bryd?
  3. Pa weithgareddau, gwasanaethau neu ddigwyddiadau gwaith ieuenctid fyddech chi’n eu hoffi neu eu hangen nad oes ar gael i chi ar hyn o bryd?

I ddysgu mwy, gwyliwch y fideos isod os gwelwch yn dda.

Beth yw Gwaith Ieuenctid

Beth mae’n meddwl i pobl ifanc?

Sut i gymryd rhan a rhannu eich profiadau?

Anfonwch e-bost at GwaithIeuenctid@llyw.cymru lle byddwn yn anelu at roi mwy o wybodaeth i chi neu eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaeth ieuenctid lleol a all eich helpu i fod yn rhan o ymateb grŵp.

Gallwch ysgrifennu eich ymatebion, anfon llun atom o’ch ymatebion, neu rannu fideo byr neu neges llais. Os oes angen help arnoch, gallwch ofyn i’ch gweithiwr ieuenctid, gweithiwr cymorth, athro neu unrhyw un rydych chi’n ei adnabod ac yn ymddiried ynddo gyflwyno’r ymatebion hyn ar eich rhan.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion: Dydd Sul 9fed o Fehefin, 2024.