Yma gallwch ddod o hyd i’r pamffled gan Grŵp Busnes CWVYS, sy’n lansio yn rhifyn Nadolig heddiw o Gyfarfod Aelodau CWVYS All Wales; BROCHURE December 21 (CYM)

Y gobaith yw y bydd hyn yn darparu trosolwg cyflym i aelodau, yn enwedig y rhai sy’n dymuno paratoi gwybodaeth / syniadau / ceisiadau ar gyfer y grŵp. Bydd y gwaith hwn yn cael ei dreialu o amgylch ardal Caerdydd a’r Fro gan ddechrau ym mis Ionawr.

Bydd Lizzy Bacon, sy’n ymgymryd â darn o ymchwil yn mapio’r Sector Gwirfoddol Ieuenctid yng Nghymru, yn defnyddio hwn fel cyfle ymchwil i gofnodi’r anghenion ar gyfer aelod-sefydliadau a gofyn am adborth ar ddiddordebau gyrfa a datblygiadau sgiliau pobl ifanc.
Y ffocws cyntaf fydd aelodau yn rhanbarth Caerdydd a’r Fro.

Fel rhan o hyn, bydd aelodau’r grŵp busnes yn mynd at gwmnïau i gymryd rhan yn y peilot, gan geisio sicrhau lleoliadau priodol i bobl ifanc.
Ochr yn ochr â hyn ac fel rhan o agendâu CSR y busnesau, byddant yn nodi staff sydd â sgiliau perthnasol i wirfoddoli a chefnogi ein haelodau er mwyn cryfhau, cynnal a thyfu eu gwasanaethau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch i’n Swyddog Aelodaeth a Chefnogaeth Busnes Mandi, trwy Amanda@cwvys.org.uk