Roedd yn wefr i ymweld â Thŷ’r Cyffredin ddoe (2 Gorffennaf) er mwyn mynychu digwyddiad ar gyfer adroddiad CWVYS ‘Straeon o Waith Ieuenctid yng Nghymru’

Cafodd y derbyniad ei groesawu’n garedig gan Wayne David AS, sydd, fel ein Llywydd, yn parhau i fod yn gefnogol iawn i bob peth CWVYS. Diolch, Wayne!

Ymunodd Kath Allen a Paul Glaze â chyd-deithwyr dewr Mike Cook (Gweithiwr Ieuenctid), Morgana a Gethin (Pobl Ifanc) o SYDIC ynghyd ag Andy Borsden a Keith Towler.

Roedd yn gyfle gwych i rannu’r adroddiad ‘Straeon’ a ffilmiau gyda’r 10 ASs a fynychodd y digwyddiad ond hefyd i drafod manteision gwaith ieuenctid yng Nghymru, sut mae’r sector gwirfoddol yn gweithredu a’r cyd-destun a materion cyfredol (gan gynnwys yr Strategaith Gwaith Ieuenctid newydd).

Cawsom ein taro nid yn unig gan barodrwydd ASau i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny ond hefyd i ymwneud â’u profiadau eu hunain, gan gynnwys sut roedd gwaith ieuenctid wedi chwarae rôl sylfaenol a chadarnhaol iawn yn eu bywydau wrth dyfu i fyny yng Nghymru.

Aeth Wayne â ni ar daith hynod ddiddorol o Balas San Steffan; lle’r oeddem yn rhyfeddu a’r amgylchedd, yn yfed pop a the, bwyta siocled ac yn cael ein clywed am dynnu lluniau yn y mannau anghywir!

Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad a’r dolenni fideo *yma*