Wythnos diwethaf wnaeth CWVYS cwrdd a Rachael, hyrwyddwr BrightSky, sy’n cael ei ariannu gan y Swyddfa Gartref.

Mae Bright Sky yn ap AM DDIM i unrhyw un a allai fod mewn perthynas gamdriniol.

Mae hefyd yn darparu cefnogaeth i ffrindiau a theuluoedd dioddefwyr, ymarferwyr a chyflogwyr sy’n chwilio am wybodaeth am gam-drin domestig a rhywiol, cydsyniad rhywiol, diogelwch ar-lein, stelcio ac aflonyddu.

Mae Bright Sky yn cynnwys cyfeiriadur ledled y DU o Wasanaethau Cymorth Arbenigol.

Mae’r help yn cynnwys holiaduron byr i asesu diogelwch perthynas a chamau i’w hystyried os ydynt yn gadael perthynas gamdriniol. Mae’n darparu gwybodaeth am berthnasoedd iach, gwahanol fathau o gam-drin, y mathau o gymorth sydd ar gael, sut y gallwch chi helpu a llawer mwy. Mae ganddo swyddogaeth i gofnodi tystiolaeth mewn Cyfnodolyn Preifat ac mae’n rhoi arweiniad i ddiogelwch ar-lein.

Mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o Bright mae’n gallu gyflwyno arddangosiadau byr i grwpiau llai e.e. hyfforddwyr / rheolwyr / arweinwyr diogelu / gweithiwr ieuenctid a phobl allweddol eraill.

Mae’r cyflwyniadau hyn wedyn yn caniatáu i sefydliadau weld drostynt eu hunain sut y gallai’r ap hwn fod o fudd iddynt hwy a’r bobl sy’n dod i gysylltiad â’u gwasanaeth. .

NID OES COST yn gysylltiedig â Bright Sky. Fe’i cymeradwyir gan y Swyddfa Gartref, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru WCVA a dyma’r unig ap sydd wedi’i drwyddedu gan Secured by Design. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.hestia.org/brightsky

Bydd Rachael yn bresennol yng nghyfarfod nesaf Grŵp Datblygu Gweithlu CWVYS ar 25 Medi, i dysgu mwy yn y cyfamser, ewch I www.hestia.org/brightsky neu lawrlwythwch yr app AM DDIM o’r siop app ar eich ffon symudol, tabled neu cyfrifiadur.