Mae’r Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau a fydd o gymorth i ddeall Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026. Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau | LLYW.CYMRU
Pwrpas y canllawiau yw codi ymwybyddiaeth o’r newidiadau sydd ar ddod yn sgil y Gorchymyn, a helpu darparwyr a rhanddeiliaid i ddeall beth y gallai’r newidiadau ei olygu i wahanol fathau o ddarpariaeth. Y bwriad yw cefnogi darparwyr yn y sectorau cofrestredig ac anghofrestredig i ystyried sut y gallai’r newidiadau effeithio ar eu darpariaeth, ac a allai fod yn ofynnol iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Dyma rai o’r newidiadau allweddol a gyflwynir gan Orchymyn 2026:
- Eglurder ynghylch pryd mae gwarchodwyr plant sy’n gofalu am blant sy’n perthyn iddynt wedi’u heithrio rhag y gofyniad i gofrestru
- Adolygu’r terfynau oedran ac amser presennol a chyflwyno trothwyon newydd ar gyfer rhai eithriadau, yn enwedig ar gyfer gweithgareddau coetsio a dysgu
- Cryfhau’r trefniadau goruchwylio a sicrhau ansawdd ar gyfer darpariaeth i blant dwy oed ac iau
- Cysoni’r eithriadau ar gyfer nanis, au pairs a charcwyr
- Galluogi plant 10 oed i fanteisio ar wasanaethau ieuenctid wrth bontio
- Rhwystro darparwyr sydd wedi’u hatal rhag gweithredu o dan eithriadau penodol.
Mae’r canllawiau hefyd yn darparu rhagor o wybodaeth am y cyfnod pontio, cyn i’r Gorchymyn ddod yn orfodol.
Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth mae croeso i chi rannu’r wybodaeth yma, ac wrth gwrs gallech rhannu postiadau’r Llywodraeth Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol wrth iddynt gael eu cyhoeddi. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod darparwyr, sefydliadau a rhanddeiliaid ehangach yn ymwybodol o’r newidiadau sy’n dod, yn gwybod lle i ddod o hyd i’r canllawiau, ac yn deall lle i fynd am ragor o wybodaeth.