Mae Tŷ Enfys yn elusen leol sy’n cynnig gwasanaeth am ddim i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd sy’n byw yn Llwynhendy neu o’i gwmpas.

Wedi’u lleoli yng nghanol cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, mae Canolfannau Teulu Plant Dewi yn lle lleol i deuluoedd gyfarfod, cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau a dysgu sgiliau newydd.

Gall teuluoedd a phlant 0-4 oed fwynhau tylino babanod, iaith a chwarae, caneuon a sesiynau adrodd straeon.
Gall plant hŷn yn y teulu ymuno â gweithgareddau gwyliau.
I rieni mae gweithgareddau meithrin hyder a lles, rhaglenni rhianta, gweithgareddau ffordd iach o fyw a diogelwch yn y cartref.