Mae Canolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri yn glwb ieuenctid a chymunedol yng nghanol Llanymddyfri.
Rydym ar agor bob dydd i bobl ddefnyddio cyfrifiaduron, casglu taflenni gwybodaeth neu gyngor neu ddim ond cael coffi/te a sgwrs! Mae gennym ni DigiLab, ystafell clwb ieuenctid, ystafell gelf ac ati.
Mae gennym ni amryw o ddosbarthiadau i fynychu am £3 y sesiwn gan gynnwys gwehyddu helyg, garddio, sesiynau celf a chrefft ysgrifennu creadigol a mwy!
Dilynwch ni ar ein tudalen Facebook am wybodaeth a diweddariadau! Mae gennym ni Glwb Ar ôl Ysgol 3.45-5.30pm bob diwrnod ysgol ac rydym ar agor am ddwy noson yr wythnos ar gyfer Clwb Ieuenctid (7.30 tan 9.30pm) ac ar ddydd Sul (6.00 i 8.00pm) ar gyfer Gweithdy Beiblaidd sy’n cymryd sawl ffurf gan gynnwys defnyddio cerddoriaeth, drama, celfyddydau, grwpiau trafod, hwyl a gemau!
Mae gennym ni nawr stiwdio recordio hefyd i unrhyw fandiau/cantorion/corau lleol recordio eu cerddoriaeth.
Mae nifer o grwpiau lleol yn defnyddio’r cyfleusterau yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri, ac mae ystafelloedd ar gael i’w llogi ar gyfer cyfarfodydd, partïon plant, digwyddiadau elusennol ac ati.