Isod mae diweddariad gan Cangen Ymgysylltu Ieuenctid y Llywodraeth Cymru yngylch Gwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid 2025

Annwyl bawb

Rwy’n cysylltu i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein cynlluniau ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid 2025.

Yn dilyn y cyfnod enwebu a oedd ar y gweill o fis Mehefin i fis Tachwedd 2025, fe daeth y tri panel beirniadu ynghyd ym mis Mawrth 2026 i gytuno ar restr fer o dri fesul categori. Diolch yn fawr iawn i aelodau’r panel am eu cymorth amhrisiadwy gyda hyn.

Roedd yn dasg anodd i’r beirniaid benderfynu ar restr fer ymysg yr enwebiadau gwych a gyflwynwyd. Rydw i am gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i enwebu enghreifftiau o ragoriaeth ac arloesedd o bob cwr o Gymru.

O ran y camau nesaf, bydd proffiliau o bob un o’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid ac ar sianeli Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin, gan arwain at gyhoeddi’r enillwyr yn ystod Wythnos Gwaith Ieuenctid (23-30 Mehefin).

Ni fydd seremoni wobrwyo draddodiadol eleni. Rwy’n gwybod y bydd hyn yn newyddion siomedig i rai ohonoch chi. Fodd bynnag, byddwn yn defnyddio dulliau eraill i dynnu sylw at yr holl straeon gwych sydd wrth wraidd pob un o’r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer, gyda’r nod o godi proffil gwaith ieuenctid ymysg rheini tu hwnt i’r sector sydd efallai ddim yn gwerthfawrogi ehangder ac effaith gwaith ieuenctid ar fywydau pobl ifanc.

Diolch am eich cefnogaeth barhaus i ddathlu’r enghreifftiau gorau o waith ieuenctid ym mhob cwr o Gymru.

Cofion cynnes

Dyfan Evans
Is-adran Ymgysylltu Ieuenctid
Llywodraeth Cymru