Mae Shelter Cymru wedi cyhoeddi wybodaeth yn benodol ar gyfer phobl ifanc sydd a pryderon ynglun a digartrefedd.

Yn y cyfnod anodd yma mae pobl ifanc yn sefyllfaoedd byw ansicr angen cyngor nawr yn fwy nag erioed, dywedodd Shelter:

Fel yr ydych yn  ymwybodol, mae’r feirws hon yn cael effaith andwyol ar sefyllfa digartrefedd pobl ifanc ac rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw am ein gwasanaethau cyngor. Yn dilyn hyn rydym wedi creu dudalen benodol gyda gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc.

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai modd i chi i rhannu’r ddolen isod more eang a phosib: https://sheltercymru.org.uk/cy/coronafeirws-cyngor-i-bobl-ifanc/

Mae hefyd dal i fod modd cael cyngor dros y ffon neu trwy gwe-sgwrs, gyda’r manylion ar waelod y dudalen uchod.  

Cofiwch hefyd gysylltu os ydych am godi unrhyw bryderon, faterion neu dueddiadau tai yr ydych wedi dod ar eu traws yn ymwneud a digartrefedd dros y misoedd diwethaf er mwyn gallu eu cynnwys mewn trafodaethau gyda’n gweithiwyr achos, ein hadran ymyrchoedd ag unrhyw drafodaethau gyda chynllunwyr polisi.