Mae ail ymgyrch etholiad Senedd Ieuenctid Cymru wedi lansio heddiw (y 3ydd o Fehefin 2021)!

Mae cofrestriad pleidleiswyr ar agor, ac anogir sefydliadau ieuenctid i wneud cais i ddod yn sefydliadau partner swyddogol Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer y tymor newydd.
Gallwch ddod o hyd i linell amser o ddyddiadau allweddol yn ogystal â gwybodaeth bwysig arall am Senedd Ieuenctid Cymru yn y Llythyr i Randdeiliad yma.

Byddai’n wych pe bai sefydliadau gwaith ieuenctid a’r rhai sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn gallu cyfleu’r neges yn eang. Efallai bydd aelodau CWVYS a diddordeb i cofrestru fel sefydliadau partner? Gallwch ddarganfod sut trwy glicio ar y ddolen hon; https://seneddieuenctid.senedd.cymru/cymryd-rhan/dod-yn-bartner/

Bydd y cyfle i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru ar gael i bob person ifanc rhwng 11 oed (erbyn 31 Awst, 2021) a hyd at 17 oed yn ystod etholiad 01 – 22 Tachwedd 2021. Gallwch ddarganfod mwy amdano yma; https://seneddieuenctid.senedd.cymru/