Hoffem achub ar y cyfle i rannu gwefan newydd Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid â chi, mae’n cynnwys gwybodaeth am bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol yn 2019.

Rydym yn cael ein llorio gydag ansawdd yr enwebiadau bob blwyddyn, ac nid oedd eleni’n ddim gwahanol. Mae dyfnder ac amrywiaeth y gwaith ieuenctid drwy Gymru yn rhywbeth i’w ryfeddu ato. Roedd hi’n dasg anodd i’r beirniad greu rhestr fer o doreth o geisiadau mor gryf. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am roi o’u hamser a chynnig eu harbenigedd. Rhaid sôn yn arbennig am ein beirniaid ifanc, sydd wedi dangos uniondeb cymeriad mawr a doethineb wrth ddewis y tri sydd yn y rownd derfynol yn y categori ‘Gwneud Gwahaniaeth’.

Gobeithio y bydd y geirdaon fideo yn eich ysbrydoli, fel y cawsom ninnau ein hysbrydoli ganddynt, a byddant yn rhoi hwb i chi enwebu rhywun o’ch sefydliad chi ar gyfer y gwobrau nesaf. Gallwch enwebu ar gyfer 2020 o fis Tachwedd 2019 – mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud cais i’w chael ar y wefan.