Mae Youth Shedz yn fenter gyffrous sy’n anelu at ddarparu lle diogel i bobl ifanc archwilio pwy ydyn nhw. Mae llawer o’r bobl ifanc rydyn ni’n eu hadnabod wedi gorfod delio â materion yn ifanc, ac o dan yr wyneb, efallai eu bod nhw’n ymdopi â llawer o bethau; gall hyn weithiau wneud ymdopi â bywyd ac ysgol yn anodd iawn – ac rydym am ymateb i hyn . Mae Youth Shedz yn wahanol i glwb ieuenctid, gan nad ydym yn ymwneud â niferoedd mawr o bobl ifanc yn ymuno â’i gilydd i wneud gweithgareddau – er bod hynny’n wirioneddol bwysig hefyd! Mae Youth Shedz ar gyfer y person ifanc a all fod yr un sydd bob amser yn camymddwyn, neu’n chwarae lan yn yr ysgol, neu’n encilgar iawn ac y gellir ei anwybyddu o bosibl mewn grŵp mwy. Gwir ethos Youth Shedz yw cefnogi’r Bobl Ifanc hynny sydd mewn perygl o gael eu gwrthod gan gymdeithas brif ffrwd, neu na allant ymdopi â hi. Mae angen gwrando ar bobl ifanc, eu hannog, a’u herio weithiau a gobeithiwn y gall Youth Shedz helpu i ddarparu’r gofod hwnnw. .

Rydym yn gweithio’n agos gyda heddlu lleol, ysgolion, gwasanaethau ieuenctid, cynghorau tref, rhieni – ac wrth gwrs pobl ifanc! Rydym eisoes wedi cael Shedz ar draws Gogledd Cymru, o Ysgol Uwchradd Caergybi draw i Sir Ddinbych. Mae pob Sied yn ofod sydd wedi’i dyfu’n organig, gyda phobl ifanc yn cymryd rhan yr holl ffordd, ac mae gennym ni god ymddygiad ac egwyddorion y mae angen i bob sied eu dilyn. Mae Youth Shedz wedi datblygu Tookit a Thrwydded Partner i gymunedau eraill eu dilyn os ydynt am blannu Sied yn eu hardal eu hunain, sy’n golygu dod o hyd i Hyrwyddwr Sied i helpu i arloesi ac arwain y prosiect; mae hyn yn ein helpu i ledaenu ethos Youth Shedz a thyfu’r weledigaeth – ac mae’n enghraifft wych o waith cydgynhyrchu a phartneriaeth.

Sefydlwyd yr elusen gan Scott Jenkinson yn 2017 mewn ymateb i ymddygiad gwrthgymdeithasol cwpl o fechgyn yn Ninbych – i ddarganfod mwy am stori Scott, i ddarllen ein cod ymddygiad a’n hegwyddorion, ac yn gyffredinol i gael gwybod am Youth Shedz,  os gwelwch yn dda cymerwch olwg ar y wefan: https://www.youthshedz.com

Os ydych chi’n teimlo y byddai Sied Ieuenctid yn dda yn eich ardal chi, ac os hoffech chi ddarganfod mwy am y pecyn cymorth, cysylltwch â sian@youthshedz.com

Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!